SL(6)370 – Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 (Rheoliadau a Chyfarwyddydau 2023) yn diwygio Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 (y Rheoliadau a Chyfarwyddydau 2016) mewn perthynas â Chymru. Mae Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016 yn nodi'r dyluniad gorfodol ar gyfer arwyddion traffig ym Mhrydain Fawr, yr hyn maent yn ei olygu, sut maent yn cael eu gosod a sut maent yn cael eu goleuo.

Mae'r diwygiadau hyn yn ganlyniadol i Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 ac yn atodol i’r Gorchymyn hwnnw, sy’n gostwng y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr yng Nghymru pan ddaw i rym ar 17 Medi 2023.

Mae'r gwelliannau a wnaed gan Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cynnwys:

 

Arwyddion diogelwch ffyrdd newydd

 

Er enghraifft, yr arwydd newydd hwn i rybuddio am gamera cyflymder ac i atgoffa gyrwyr o'r terfyn cyflymder 20 milltir yr awr:

 

 

 

Cael gwared ar yr arwyddion presennol

 

Er enghraifft, ni fydd angen yr arwydd hwn (sy'n rhybuddio am ddiwedd parth 20 milltir yr awr ac sy'n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol yn berthnasol) mwyach pan fydd y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yn cael ei leihau i 20 milltir yr awr:

 

 

Arwyddion dros dro newydd

 

Er enghraifft, yr arwydd dros dro newydd hwn sy'n nodi pwynt cychwyn terfyn cyflymder newydd o 20 milltir yr awr (y gellir ei osod yn ystod y 12 mis cyntaf y mae'r cyfyngiad 20 milltir yr awr mewn grym):

 

 

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 5 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 3(1)(b) yn cyflwyno testun Cymraeg i gyd-fynd â'r arwydd canlynol:

 

Y testun Cymraeg i'w ddefnyddio gyda'r arwydd hwn yw "Ysgol", "Hebryngwr", "Maes chwarae", "Plant Anabl", "Plant dall" neu "Plant byddar".

Y disgrifiad cyffredinol Saesneg a roddwyd ar gyfer yr arwydd hwn yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yw "children going to or from school or playground area". Fodd bynnag, yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2016, y disgrifiad cyffredinol sy'n cyd-fynd â'r arwydd hwn yw "plant ymhellach ymlaen yn mynd i'r ysgol neu faes chwarae neu oddi yno". O ganlyniad, ar ôl i reoliad 3(1) ddod i rym, bydd disgrifiad gwahanol o’r arwydd hwn yng Nghymru ac yn Lloegr.

Byddem yn croesawu eglurhad ynghylch a fwriedir y newid o "faes chwarae ymhellach ymlaen" i "ardal y maes chwarae" ac, os bwriedir hynny, pa wahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i osod yr arwydd hwn a’i effaith?

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Gan fod Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn gymwys mewn perthynas â Chymru, mae angen i rai arwyddion ffyrdd presennol sy'n berthnasol yng Nghymru a Lloegr fod yn gymwys yn Lloegr yn unig (h.y. mae angen tynnu Cymru o gymhwysiad rhai arwyddion yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2016). Mae Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cyflawni hyn drwy fewnosod y geiriau "Mewn perthynas â Lloegr" o ran rhai arwyddion yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2016. Mae'r geiriau i'w mewnosod "ar ddechrau" y golofn berthnasol, ond nid yw'n glir yn union ble y dylid mewnosod y geiriau hynny.

Er enghraifft, mae rheoliad 4(a) o Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn awgrymu y bydd y geiriau (h.y. y testun coch isod) yn cael eu mewnosod fel a ganlyn: cyn rhif y diagram:

Fodd bynnag, lle mae Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cyflwyno arwydd newydd ar gyfer Cymru, gosodir y geiriau "Mewn perthynas â Chymru" ar ôl rhif y diagram. Er enghraifft, mae rheoliad 5 o Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cynnwys y cofnod newydd hwn:

Byddem yn ddiolchgar o gael eglurder ynghylch ble y dylid mewnosod y geiriau "In relation to England" yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2016. Rydym yn ychwanegu bod cysondeb o ran ymdrin â materion fel hyn yn bwysig er mwyn sicrhau eglurder a hygyrchedd deddfwriaeth.

3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yng nghyfarwyddyd cyffredinol 9 o Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023, mae'r paragraff 2 newydd yn dechrau gyda'r geiriau "This sign...". Mae hyn, fodd bynnag, yn anghyson â drafftio'r paragraff 2 presennol a'r holl baragraffau eraill yn Rhan 4 o Atodlen 10 i Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2016 sy'n dechrau gyda'r geiriau "The sign...".

4. Rheol Sefydlog 21.2(i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires; Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod ei ddrafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mewn perthynas â Rhan 3 o Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023, rydym yn codi'r pwyntiau a ganlyn:

-      Nid yw'r rhagymadrodd yn nodi pa bwerau galluogi y mae Gweinidogion Cymru yn dibynnu arnynt i wneud Rhan 3. Er ein bod yn credu bod gan Weinidogion Cymru y pwerau i wneud Rhan 3 o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, dylid dyfynnu'r pwerau hynny yn y rhagymadrodd. Mae'r pwerau galluogi ar gyfer Rhan 1 a Rhan 2 wedi'u nodi yn y rhagymadrodd.

-      Mae'r rhagymadrodd yn cadarnhau y cydymffurfiwyd â'r gofynion ymgynghori a nodir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 o ran Rhan 1 a Rhan 2, ond nid oes sôn am ymgynghori ar Ran 3. Nodwn fod Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn gofyn am ymgynghori cyn y gellir gwneud rheoliadau a chyn y gellir rhoi cyfarwyddydau cyffredinol. Felly, gofynnwn i Lywodraeth Cymru a yw unrhyw un o'r gofynion ymgynghori yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn gymwys i Ran 3 ac, os ydynt, a gynhaliwyd ymgynghoriad o'r fath cyn gwneud Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023.

-      Mae Rhan 1 a Rhan 2 yn benodol yn cynnwys darpariaethau i ddatgan eu bod yn dechrau ar 17 Medi 2023. Fodd bynnag, nid yw Rhan 3 yn cynnwys darpariaeth gychwyn. Er ei bod yn ymddangos o'r cyd-destun cyffredinol bod Rhan 3 hefyd wedi'i fwriadu i ddechrau ar 17 Medi 2023, dylai fod darpariaeth benodol yn datgan pryd y daw Rhan 3 i rym.

-      Nid yw'n glir sut y dylid dyfynnu Rhan 3. Mae Rheoliad 1(1)(a) yn datgan y gellir dyfynnu Rhan 1 fel Rheoliadau Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023. Mae Rheoliad 1(1)(b) yn datgan y gellir dyfynnu Rhan 1 ynghyd â Rhan 2 fel Rheoliadau a Chyfarwyddydau Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) h.y Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023. Fodd bynnag, mae'n ymddangos i ni fod Rhan 3 hefyd yn rhan o Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023, yn anad dim oherwydd enw'r offeryn yn ei gyfanrwydd yw Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023.

5. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rhifo darpariaethau Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2016 yn dechrau gydag "1" ar ddechrau'r rheoliad yn Rhan 1 a'r cyfarwyddydau cyffredinol yn Rhan 2. Fodd bynnag, nid yw'r rhifo yn Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn ail-ddechrau o "1" ar bob Rhan; Yn hytrach, mae'r rhifo yn parhau drwy Ran 1, Rhan 2 a Rhan 3.

Nodwn hefyd fod y ddarpariaeth yn 11(4) yn Rhan 3 yn cyfeirio ato'i hun fel "rheoliad". Fodd bynnag, cyfeirir at gyfarwyddydau cyffredinol 9 a 10 hefyd fel "rheoliadau" (gweler cyfarwyddyd cyffredinol 8 yn Rhan 2).

Mae hyn yn ychwanegu ymhellach at y dryswch o ran dyfynnu gwahanol ddarpariaethau Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

6. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Rhan 3 o Reoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed; fel mae'r Memorandwm Esboniadol yn dweud:

Pan fydd Rheoliadau a Chyfarwyddiadau 2023 ar waith, ni fydd angen nifer o arwyddion traffig a marciau ffordd sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd mwyach, ac felly ni chaniateir eu defnyddio yng Nghymru. Diben y darpariaethau a'r arbedion trosiannol hyn yw darparu cyfnod gras ar gyfer rhai arwyddion traffig a marciau ffordd, gan roi rhagor o amser i awdurdodau traffig, ar ôl i Reoliadau a Chyfarwyddiadau 2023 ddod i rym, i sicrhau bod yr arwyddion traffig a'r marciau ffordd cywir ar waith, a bod arwyddion traffig a marciau ffordd nad oes eu hangen / nad ydynt yn cydymffurfio’n cael eu tynnu.

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru egluro beth yw goblygiadau hyn ar gyfer gorfodi troseddau traffig ffyrdd yn ystod y cyfnod 'gras'.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau adrodd.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

9 Awst 2023